Super Movers i bawb: Gwybodaeth am y fenter, a'r pecyn offer chwaraeon

Ymunwch â’r hwyl a symudwch eich corff!

Mae Super Movers i bawb yn fenter newydd, gyffrous i ddisgyblion cynradd a’u hathrawon sy’n cael ei darparu gan BBC Teach, y Premier League a ParalympicsGB. Mae gweithgarwch corfforol yn hollbwysig i blant ddatblygu’n iach, ac mae cymryd rhan mewn addysg gorfforol a chwaraeon yn fuddiol i lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant.

Rydyn ni eisiau i bob plentyn fwynhau cadw’n heini, ac rydyn ni am i ddisgyblion anabl deimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys mewn chwaraeon yn yr ysgol, ac i annog cynghreiriaid yn y maes chwaraeon.

Mae gennym ni ffilmiau pwerus ac adnoddau defnyddiol sydd wedi’u cynhyrchu ar y cyd â’r Premier League, ParalympicsGB, Activity Alliance, BBC Sport, Boccia England, Channel 4 ac Youth Sport Trust. Rydyn ni’n gobeithio y gall pob disgybl mewn ysgolion cynradd ymuno â ni a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cynhwysol yn yr ysgol ac adref.

Dysgwch fwy am yr adnoddau sydd ar gael yn y canllaw i athrawon ar gyfer Super Movers i bawb.

Gwyliwch ein ffilm i weld y para-athletwyr Ellie Simmonds, Hannah Cockroft a David Smith yn trafod pwysigrwydd chwaraeon cynhwysol a beth mae Super Movers i bawb yn ei olygu iddyn nhw.

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda isdeitlau Cymraeg)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda disgrifiad sain)

(Fideo cyfrwng Saesneg gyda BSL a disgrifiad sain)

Offer chwaraeon am ddim

Gall diffyg offer fod yn rhwystr i blant anabl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, felly rydym yn darparu miloedd o becynnau offer chwaraeon cynhwysol am ddim i ysgolion cynradd y DU, gyda diolch i’r Premier League.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am becyn offer chwaraeon cynhwysol am ddim oedd dydd Gwener 7 Mehefin 2024, ac mae'r cyfnod cofrestru bellach wedi dod i ben.

Pecyn Super Movers i bawb

Pa fath o chwaraeon gallwch chi roi cynnig arnyn nhw gyda’r pecynnau o offer?

Pêl-droed dall

Mae pêl-droed dall yn chwaraeon cyffrous, lle mae’r chwaraewyr yn gwisgo mwgwd dros eu llygaid ac yn defnyddio eu sgiliau gwrando i ddod o hyd i’r bêl sy'n cynnwys clychau bach, fel bod modd ei sgorio yn y gôl. Mae’r pecyn yn cynnwys peli y mae modd eu clywed a mygydau i’r llygaid.

Boccia

Mae boccia (sy’n cael ei ynganu fel ‘bot-cha’) yn cael ei chwarae yn y Gemau Paralympaidd a chafodd y gêm ei chyflwyno yn 1984. Mae dwy ochr mewn gêm ac mae’n cael ei chwarae y tu fewn. Yn debyg i gêm o fowliau, y nod yw i gael y bêl yn agosach at y jac na’ch gwrthwynebwyr. Mae’r chwaraewyr yn eistedd ac mae modd taflu, cicio neu rolio’r bêl ar ramp i gyrraedd y cwrt. Mae Boccia England yn cynnig cardiau ‘Sut i chwarae boccia’ am ddim.

Para-athletau

Mae Para-athletau wedi bod yn rhan o’r Gemau Paralympaidd ers 1960. Mae’r offer chwaraeon sy’n cael ei gynnig gan y Premier League ar gyfer y digwyddiadau maes, sef taflu gwaywffon a phwysau, a’r digwyddiad trac, sef rhedeg gyda thywysydd.

Os wnaethoch chi fethu'r ffenestr gofrestru i wneud cais am becyn, gallwch roi cynnig ar yr holl chwaraeon hyn heddiw gan ddefnyddio adnoddau Super Movers i bawb ac offer y gallech ddod o hyd iddynt yn eich ysgol neu gartref!

Beth mae’r pecynnau o offer yn eu cynnwys?

• 2 x bêl y mae modd eu clywed
• 10 x mwgwd llygaid polyester sy’n gallu cael eu golchi
• 4 x waywffon sbwng: diamedr: 45mm, hyd: 75cm, pwysau 70kg
• 1 x roced sbwng
• 8 x pêl ysgafn: diamedr – 135mm
• Cardiau gweithgaredd ‘Sut i chwarae boccia’.

Sut bydd pecynnau'n cael eu dosbarthu?

Am ragor o wybodaeth am sut mae eich data yn cael ei brosesu, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y dudalen ymgeisio. Sylwch y bydd y ddolen hon yn mynd â chi o wefan y BBC.

Os bydd niferoedd uchel iawn yn dangos diddordeb a bod dim digon o becynnau ar gael i ateb y galw, yna bydd y pecynnau’n cael eu dosbarthu’n deg rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mi fyddwn ni’n sicrhau bod nifer y pecynnau sy’n cael eu dosbarthu yn gymesur â nifer yr ysgolion yn yr ardal honno.

O’r pecynnau sydd ar gael i bob gwlad, mi fydd 50% ohonyn nhw’n cael eu dosbarthu ar sail cyntaf i’r felin.

Mi fydd y 50% arall yn cael eu dosbarthu yn seiliedig ar Angen*.

*Mi fydd yr Angen hwn yn cael ei bennu gan ddefnyddio dangosydd priodol ar gyfer pob gwlad. Mae’r tabl isod yn dangos sut y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Set DdataHidlydd Angen
CymruGrant Amddifadedd Disgyblion
Gogledd IwerddonPremiwm i Ddisgyblion Difreintiedig
Yr AlbanCyllid Ecwiti i Ddisgyblion neu gronfa Cyrhaeddiad yr Alban
LloegrPremiwm i Ddisgyblion

Gallwch ddod o hyd i’r telerau a’r amodau llawn, a gwyodaeth am sut fydd eich data’n cael ei drin, ar y dudalen ymgeisio yma. Sylwch y bydd y ddolen hon yn mynd â chi o wefan y BBC.