Super Movers i bawb: Canllaw i athrawon

Athrawon mewn neuadd chwaraeon yn rhoi cynnig ar redeg dan arweiniad

Mae Super Movers i bawb yn fenter newydd a chyffrous ar gyfer disgyblion 5-11 oed. Rydyn ni eisiau i bob plentyn fwynhau bod yn egnïol, ac rydyn ni eisiau cefnogi plant anabl i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau chwaraeon ac addysg gorfforol yn yr ysgol.

Mae gweithgarwch corfforol yn hollbwysig er mwyn sicrhau datblygiad iach plant, ac mae cymryd rhan mewn chwaraeon ac addysg gorfforol o fudd i lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol plant.

Rydyn ni wedi ymuno â’r Premier League, ParalympicsGB ac eraill i gynhyrchu fideos ac adnoddau ysbrydoledig y gallwch eu defnyddio i gynnal sesiynau cynhwysol, lle gall pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl gymryd rhan gyda’i gilydd.

Gallwch ddod o hyd i’r canlynol ar wefan Super Movers i bawb:

Ffilmiau 'Sut mae…'

Dyma ffilmiau difyr ar gyfer gwahanol grwpiau oedran – plant rhwng 5 a 7 oed, a phlant rhwng 7 ac 11 oed. Maen nhw’n dangos i chi sut i gynnal sesiynau:

  • Boccia
  • Pêl-droed dall
  • Para-athletau

Mae yna hefyd ffilm sy’n edrych ar bwysigrwydd cynghreiriaeth mewn chwaraeon, i ysbrydoli myfyrwyr i wneud i bawb deimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod yn rhan o'r tîm.

Straeon sy’n ysbrydoli

Gan ddefnyddio pŵer chwaraeon, rydyn ni eisiau cyrraedd pobl ifanc anabl a meithrin eu hyder, yn ogystal â grymuso cynghreiriaid ar draws ysgolion cynradd. Byddwch yn cwrdd ag athletwyr Paralympaidd sy’n rhannu eu straeon a, gobeithio, yn ysbrydoli eich myfyrwyr i fod â’r hyder i roi cynnig ar wahanol chwaraeon.

Caneuon a dawnsiau Super Movers

Fideos hwyliog sy’n ysbrydoli’r teulu cyfan i symud gartref. Rydyn ni eisiau cefnogi rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr i annog plant i fod yn egnïol yn amlach, ac i hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau cynhwysol i bawb.

Cardiau gweithgareddau hwyliog

Gyda chymorth Activity Alliance, rydyn ni wedi llunio cardiau gweithgareddau hawdd eu dilyn i'ch galluogi chi i gyflwyno sesiynau addysg gorfforol cynhwysol, heriol a hwyliog yn eich ysgol. Byddan nhw’n dangos i chi sut i gynllunio a chynnal y gweithgaredd, pa offer fydd ei angen arnoch, a sut y gellir addasu gweithgareddau ar gyfer anghenion unigolion a grwpiau sydd â chyngor ar gyfer namau penodol.

Offer chwaraeon am ddim

Gall diffyg offer hefyd fod yn rhwystr sy’n atal plant anabl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, felly, diolch i’r Premier League, mae Super Movers i bawb yn darparu miloedd o becynnau offer chwaraeon cyhwysol am ddim i ysgolion cynradd y DU. Y dyddiad olaf i ysgolion allu wneud cais oedd dydd Gwener 7 Mehefin, ac mae'r cyfnod cofrestru bellach wedi dod i ben. Bydd ysgolion sy’n llwyddiannus yn derbyn eu pecynnau o fis Medi 2024 ymlaen, ond gellir rhoi cynnig ar holl weithgareddau Super Movers i bawb heddiw gydag offer sydd i’w cael yn eich ysgol neu gartref.