Dyma atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am Super Movers i bawb.

Ar gyfer pa oedran mae Super Movers i bawb?
Mae Super Movers i bawb ar gyfer plant oed cynradd a'u hathrawon.
Oes adnoddau addysgu i gefnogi’r ymgyrch hon?
Oes, mae ffilmiau ar gyfer plant 5-7 oed a ffilmiau ar gyfer plant 8-11 oed. Hefyd, mae gennym daflenni gweithgareddau y mae modd eu lawrlwytho i athrawon eu defnyddio mewn gwersi Addysg Gorfforol i ddysgu rhai o'r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen mewn chwaraeon Paralympaidd. Bydd pob taflen weithgaredd yn dangos sut mae cynnal y gweithgaredd a sut y gallwch wneud y gweithgaredd yn haws neu'n anoddach, yn dibynnu ar alluoedd eich myfyrwyr. Mae’r taflenni gweithgareddau hefyd yn cynnwys ystyriaethau sy’n benodol i namau. Hefyd, mae fideos arddull dawnsio hwyliog ar gael i deuluoedd eu dilyn gartref i annog pawb yn y teulu i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a rhoi hwb i’w lles.
Oes posib cofrestru ar gyfer yr offer chwaraeon cynhwysol am ddim ar gyfer fy ysgol o hyd?
Gyda diolch i’r Premier League, bydd miloedd o becynnau offer Addysg Gorfforol am ddim yn cael eu dosbarthu i ysgolion o fis Medi 2024. Y dyddiad olaf i ysgolion cynradd y DU allu wneud cais oedd dydd Gwener 7 Mehefin, ac mae'r cyfnod cofrestru bellach wedi dod i ben. Os wnaethoch chi golli'r cyfle i wneud cais, gallwch roi cynnig ar holl weithgareddau hwyliog Super Movers i bawb heddiw gydag offer y gallech ddod o hyd iddynt yn eich ysgol neu gartref.
Beth sydd yn y pecynnau offer chwaraeon cynhwysol?
Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gofrestru yma.
Pryd fydda i’n derbyn fy mhecyn offer chwaraeon?
Bydd yr ysgolion a fydd yn cael pecyn yn cael gwybod erbyn diwedd mis Gorffennaf. Yna, bydd ysgolion yn dechrau derbyn eu pecynnau ym mis Medi.
Rydw i wedi archebu fy mhecyn offer chwaraeon, ond heb ei dderbyn. Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi wedi cael cadarnhad ond heb gael eich pecyn offer chwaraeon erbyn mis Hydref 2024, holwch dderbynfa eich ysgol i weld a yw’r pecyn wedi dod i law. Os ydych chi’n dal heb ei dderbyn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected]
Mae fy mhlant yn cael eu haddysgu gartref. Sut gallan nhw gymryd rhan?
Mae fideos hwyliog ar gael i deuluoedd eu dilyn gartref i annog pawb yn y teulu i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a rhoi hwb i’w lles.
Gallwch hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cynhwysol gyda phethau sydd gennych gartref. Er enghraifft, gallech ddefnyddio sanau wedi’u rholio ar gyfer peli boccia a bagiau ffa i ymarfer saethu.
Ai dim ond ar gyfer ysgolion y mae Super Movers i bawb?
Na. Gall y teulu cyfan gymryd rhan. Mae llawer o fideos hwyliog gyda chaneuon a dawnsfeydd i blant, rhieni a gofalwyr gymryd rhan ynddyn nhw.
Pam mae’r BBC yn cynnal yr ymgyrch hon?
Gall plant anabl deimlo eu bod wedi’u heithrio o chwaraeon, ond ein nod yw eu cefnogi i fod yn egnïol a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys, a rhoi cymorth a chyngor i athrawon ar sut mae darparu gweithgareddau cynhwysol mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon.
Rydym hefyd yn gobeithio hyrwyddo ymdeimlad o gynghreiriaeth ac eiriolaeth fel bod pob myfyriwr yn gallu cefnogi ei gyd-fyfyrwyr anabl wrth gymryd rhan mewn gwersi Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol, a bod athrawon yn gallu annog cynhwysiant.
Sut mae’r BBC yn ariannu’r ymgyrch hon?
Mae partner ein hymgyrch, Premier League, yn garedig iawn yn talu am yr offer chwaraeon sy’n cael ei roi am ddim.
Mae BBC Teach, Premier League a’r ParalympicsGB yn darparu adnoddau dysgu ar-lein wedi’u creu ar y cyd gyda chymorth Activity Alliance, Boccia England ac Youth Sport Trust i gefnogi athrawon i deimlo’n fwy hyderus wrth ddarparu gwersi chwaraeon cynhwysol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen partneriaid.
Pwy sy’n rhan o’r ymgyrch?
Mae Activity Alliance, y BBC, BBC Sport, BBC 5Live, Boccia England, Channel 4, Paralympics GB a’r Premier League yn ymwneud â chyflwyno a hyrwyddo’r ymgyrch. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen partneriaid.