Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer BBC micro:bit am ddim wedi dod i ben

Daeth y cyfnod cofrestru ar gyfer BBC micro:bit am ddim i ben ddydd Llun 18 Rhagfyr.

Please click here to access this page in English

Daeth y cyfnod cofrestru ar gyfer BBC micro:bit am ddim i ben ddydd Llun 18 Rhagfyr.

BBC micro:bit – cyfle i blant greu cod

BBC micro:bit – cewri codio yw ein hymgyrch newydd sbon fydd yn rhoi cyfle i blant rhwng 8 ac 11 oed ddatblygu sgiliau digidiol i ddeall y byd o’u cwmpas ac i siapio eu dyfodol.

Cyfrifiadur clyfar, maint poced yw’r micro:bit sydd wedi ei ddylunio i ysbrydoli plant i feddwl yn greadigol wrth greu cod go iawn. Bydd modd defnyddio’r micro:bits i addysgu sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm. Y nod yw gwneud codio yn hwyl, yn greadigol ac yn gyffrous i ddisgyblion ac athrawon.

Mae’r micro:bit yn gwneud dysgu gwybodaeth adeiladol am gyfrifiaduron yn weithgaredd gyraeddadwy a dilys. Bydd hi’n bosib codio’r micro:bit i synhwyro golau’r haul, i gyfri camau ac i greu helfa drysor gyffrous. Bydd cyfle i blant gael hwyl yn ei ddefnyddio i greu gemau megis ‘carreg, papur, siswrn’ neu hyd yn oed larwm tun bisgedi digrif.

Byddwn yn cynnig hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb i athrawon ar sut i ddefnyddio’r micro:bit. Bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu creu hefyd i gyd-fynd â rhaglenni arbennig fydd yn cael eu darlledu nes ymlaen eleni.

Pam fod athrawon wrth eu boddau â’r micro:bit?

Mae Matt Moore, Arbenigwr Cyfrifiaduraeth Cynradd yn Green Lane and Priestley Academy Trust, wedi bod yn defnyddio micro:bits gyda’i ddosbarthiadau fel rhan o gynllun peilot.

Dywedodd: “Mae’r plant yn fy ysgol wrth eu boddau yn defnyddio’r micro:bit. Rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio yn ein gwersi cyfrifiaduraeth i greu prosiectau hwyliog, yn ogystal â mewn gwersi trawsgwricwlaidd eraill gan gynnwys Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol.

“I athrawon sy’n newydd i‘r micro:bit neu’n ansicr o dechnoleg - does dim angen poeni. Mae llawer o fideos hawdd eu dilyn ar y wefan sy’n egluro popeth – ac mae yna fideos ar gyfer dechreuwyr llwyr. Mae’r micro:bit yn ffordd hawdd o gychwyn codio sy’n rhoi canlyniadau da.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd y BBC yn casglu eich data, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Gwybodaeth am y micro:bit

Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Gwybodaeth am y micro:bit

Cwestiynau Cyffredin

Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru

Ein partneriaid

Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.

Ein partneriaid