Stori Geth

Crynodeb o’r ffilm

Breuddwyd Geth yw bod yn rhan o dȋm pêl-droed yr ysgol, a phan mae capten y tȋm yn cynnig diod a all helpu ei berfformiad, mae’n cytuno’n syth.

Mae popeth yn mynd yn iawn, nes bod y ddiod yn gorboethi ac yn ffrwydro yn ystafell sbâr ei rieni. A fydd Geth yn parhau i geisio ‘ffitio mewn’ neu’n stopio prynu’r ddiod?

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Gellir cynnal gweithgaredd dosbarth cyfan sy’n gofyn i ddisgyblion symud i ochr chwith yr ystafell os ydyn nhw’n ‘cytuno’ gyda’r datganiad neu i’r dde os ydyn nhw’n ‘anghytuno’ ag ef, ee

    • Mae ffrindiau Elysia yn gofyn iddi ysgrifennu nodyn cas ar waith cartref Magi. A ddylai Elysia wneud hyn?
    • Mae Caleb yn annog Mali i guddio sbectol Jayden. A ddylai Mali wneud hyn?

Gellid gofyn i’r disgyblion 1) esbonio sut fyddai’r cymeriadau yn teimlo yn y sefyllfa yma a 2) esbonio pam eu bod nhw wedi symud i’r ochr o’u dewis, a chynnal trafodaeth ar beth sy’n gywir i’w wneud ym mhob sefyllfa.

  • Llenwi’r fwced: Gweithgaredd grŵp sy’n trafod ‘A ydych chi’n llenwi’r fwced neu’n gwagio’r fwced?’. Gellir gofyn i’r disgyblion feddwl am ymddygiad a gweithredoedd sy'n ‘llenwi’r fwced’ mewn bywyd ee cymryd tro, rhannu, bod yn garedig, parchu pobl eraill, ac yna ‘i wagio’r fwced?’ ee gweiddi allan, geriau cas, torri ar draws ac amharchu pobl.

Gallai hyn arwain at weithgaredd creu posteri i’w rhoi o amgylch y dosbarth er mwyn atgoffa pawb o sut i fod yn foesol.

  • Cwis – Gellir llunio cwis byr i’r disgyblion ar ôl gwylio’r ffilm yn gofyn iddyn nhw ateb cyfres o gwestiynau am sefyllfa Geth.

    • Sut mae Geth yn teimlo ar ddechrau’r ffilm wrth geisio ‘ffitio i mewn’?
    • Beth yw effaith penderfyniad Geth o brynu’r ddiod?
    • Sut fyddai hyn yn gwneud i’w rieni deimlo?
    • Sut mae Geth yn teimlo ar ôl penderfynu peidio â phrynu’r ddiod rhagor ar ddiwedd y ffilm?

Gallai’r safbwyntiau hyn helpu’r disgyblion i benderfynu yr hyn fydden nhw’n ei wneud yn sefyllfa Geth.

Gallai hyn fod yn weithgaredd ysgrifenedig, unigol neu fel grŵp.

  • Estyn dy law: Gellir gofyn i’r disgyblion greu amlinelliad o’u llaw gyda’r teitl ‘Pan dwi'n teimlo’n anghyfforddus dwi’n gallu troi at…’ a nodi enwau pobl ar bob bys.

Gweithgaredd arall fyddai gofyn i’r disgyblion feddwl am atebion ar gyfer y canlynol:

Dw i hapusaf pan dw i…
Dw i fwyaf cyfforddus pan dw i…
Mae fy meddwl yn glir pan dw i…
Dwi'n gallu canolbwyntio’n well pan dw i…
Mae gen i egni pan dw i…
Dwi'nteimlo’n ddewr pan dw i…

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Mae defnydd o gyflythrennu yn y gerdd ee “dan bwysau i’w blesio” a “sothach yw’r slwsh”. Fel cam cyntaf, gellir gofyn i’r disgyblion feddwl am wahanol agweddau ar fywyd Geth mewn grwpiau a pha fath o ansoddeiriau/teimladau/disgrifiadau gellir eu defnyddio ar eu cyfer ee ei rieni, Eli, ei iechyd meddwl a’i iechyd corfforol.

Yna, gall y disgyblion fynd ati i feddwl am enghreifftiau o gyflythrennu ar gyfer yr agweddau penodol er mwyn ffurfio cerdd dosbarth gyfan ar gyfer cymeriad Geth.

  • Mae gan Geth yr “hawl i ymchwilio” yn ôl y gerdd. I ddechrau, gellir trafod beth yw ystyr hawl gyda’r disgyblion ac yna edrych ar hawliau plant yng Nghymru.

Fel tasg greadigol, gellir creu cardiau ‘Mae gen i hawl i…’ a gofyn i ddisgyblion greu darlun i gyd-fynd gyda phob un er mwyn ffurfio wal arddangos sy’n arddangos y gwahanol hawliau sydd gan blant yng Nghymru.

  • Balŵn teimladau - Gellir trafod y neges ar ddiwedd y gerdd sef i siarad gyda phobl a’i bod hi’n iawn i gyfaddef a rhannu problemau. Mae’n amlwg bod Geth yn ei chael hi’n anodd rhannu ei bryderon ac o ganlyniad yn prynu diod nad yw’n ei hoffi gan ffrind er mwyn ‘ffitio i mewn’.

Fel symbol o deimladau a phryderon yn pentyrru, gellir defnyddio’r balŵn uchod lle gall y disgyblion naill ai ddefnyddio geiriau neu symbolau i gyfleu’r hyn sy’n eu poeni yn yr haenau gwahanol. Fe fydd gan bob disgybl falŵn yr un ar ddiwedd y dasg a gellir eu cyfnewid gyda phartner i rannu eu pryderon ac i roi cyngor i’w gilydd, neu gellir rhestru’r hyn sy’n poeni Geth os na fydd athrawon am i ddisgyblion rannu pryderon personol.

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Dysgu mwy am ddylanwadau a phwysau gan gyfoedion
  • Dysgu mwy am y pwysau sydd ar bobl ifanc i fod yn boblogaidd a ‘ffitio i mewn’
  • Datblygu dealltwriaeth am wneud dewisiadau doeth

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu gwneud penderfyniadau ystyriol yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys profiadau’r gorffennol.

  • Rwy’n gallu adnabod y bydd rhai penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd ac ar fywydau pobl eraill.

  • Rwy’n gallu deall y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw.

  • Rwy’n gallu adnabod ac asesu risg, a chymryd camau i’w leihau.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Dyniaethau

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n dechrau deall beth yw hawliau dynol a pham maen nhw’n bwysig.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu creu fy nyluniadau fy hun, ac rwy’n gallu gweithio ar y cyd gydag eraill i ddatblygu syniadau creadigol.
Back to top

Ble nesa?

Stori Llio. video

Mae Llio yn ofalwr ifanc i'w thad, heb lawer o amser i'w hun. A fydd Llio yn penderfynu derbyn cymorth?

Stori Llio

Stori Tegan. video

Mae Tegan yn cau ei hun allan o'r byd go iawn, ac yn cael cysur o chwarae gemau cyfrifiadurol yn ei hystafell wely. A fydd hi'n dod o hyd i gryfder i gamu allan o'r byd digidol?

Stori Tegan

Stori Trystan a Macs. video

Mae Trystan a'i frawd Macs yn cael eu bwlio yn yr ysgol, ond ddim yn dweud wrth unrhyw un. A fyddan nhw'n gadael i'r bwlis gario ymlaen, neu'n penderfynu siarad gyda rhywun?

Stori Trystan a Macs
Back to top