Stori Llio

Mae’r ffilm hon yn trafod bod yn ofalwr ifanc i riant ac awgrymwn fod athro yn ei gwylio cyn ei dangos i ddisgyblion.

Crynodeb o’r ffilm

Mae Llio, sy’n ddeg oed, yn byw gyda’i thad ac yn gofalu amdano. Mae hi’n codi’n gynnar i olchi dillad, glanhau’r tŷ ac i baratoi brecwast iddo cyn mynd i’r ysgol. Mae hi wastad wedi blino a does dim llawer o gyfleoedd iddi fynd allan i gael hwyl gyda’i ffrindiau. A fydd Llio’n penderfynu derbyn cymorth?

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Jig-so bywyd Llio – Gall bob grŵp ymchwilio i wybodaeth am yr hyn mae bod yn ‘ofalwr ifanc’ yn ei olygu. Gellir naill ai eu hannog i ymchwilio ar y we neu gall yr athro ddarparu erthyglau neu daflenni gwybodaeth iddyn nhw i’w hannog i ddarllen a dehongli gwybodaeth i ddarganfod:

    • Beth yw gofalwr ifanc?
    • Beth yw cyfrifoldebau gofalwr ifanc?
    • Pa heriau mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu?
    • Pa gymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc?

Ar ôl cwblhau’r dasg yma, gellir annog y disgyblion i ymateb yn greadigol drwy greu ‘jig-so’ o fywyd Llio. Gallai hyn olygu bod pob aelod o’r grŵp yn creu llun o agwedd ar fywyd Llio ar ddarn o jig-so fel yr isod, er mwyn cyfrannu at ddarlun cyflawn o’i bywyd.

  • Hawliau plant - Gellir cynnal sesiwn ar hawliau plant yng Nghymru lle gellir trafod beth yw ystyr hawl ac yna edrych ar hawliau plant yng Nghymru.

Fel tasg greadigol, gellir creu cardiau gweledol ‘Mae gen i hawl i…’ a gofyn i ddisgyblion greu darlun i gyd-fynd gyda phob un er mwyn ffurfio wal i arddangos y gwahanol hawliau sydd gan blant yng Nghymru.

  • Mae’r gerdd yn trafod bod salwch corfforol tad Llio yn effeithio ar ei deimladau hefyd – gellir defnyddio’r darlun o ymennydd y tad yn llawn siapiau cymhleth yn y ffilm fel sbardun i drafod teimladau ac iechyd meddwl.

    • Sut fyddai tad Llio yn teimlo?
    • Beth gall Llio ei wneud i’w helpu?
    • A yw’r disgyblion wedi teimlo’n unig o’r blaen?

Gallan nhw lunio map meddwl i feddwl am eiriau a syniadau.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Gellir gosod tasg i’r disgyblion ysgrifennu dyddiadur am ‘ddiwrnod ym mywyd gofalwr ifanc’, neu ym mywyd Llio yn benodol. Dylid eu hannog i ymchwilio i ffeithiau am ofalwyr ifanc yng Nghymru i greu map meddwl am eirfa pwysig i’w cynnwys, neu ddefnyddio’r wybodaeth mae’n nhw wedi’i chasglu yng ngweithgaredd ‘jig-so bywyd Llio’, ac yna mynd i ati i ysgrifennu dyddiadur.

Gallai’r canllaw hwn ar ysgrifennu dyddiadur fod yn ddefnyddiol ar gyfer y dasg hon.

  • Gellir gofyn i ddisgyblion lunio cerdd o bersbectif y tad. Er mwyn helpu’r disgyblion i ddeall teimladau’r tad cyn mynd ati i lunio cerdd o’i safbwynt, gellir cynnal gweithgaredd chwarae rôl mewn parau gydag un person yn actio fel Llio a’r llall fel y tad. Gallan nhw drafod sut mae’r ddau yn teimlo a beth hoffai’r ddau ddweud wrth ei gilydd i’w helpu i feddwl am eiriau, disgrifiadau ac ansoddeiriau defnyddiol ar gyfer y gerdd.

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Dysgu am y cyd-destun o fod yn ofalwr ifanc yng Nghymru
  • Datblygu dealltwriaeth am deimlo dan bwysau – cyfrinachedd, y dyfodol, rhywbeth yn digwydd i aelod o’r teulu
  • Dysgu mwy am bwysigrwydd rhannu pryderon

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.

  • Rwy’n gallu gofyn am gymorth gan bobl rwy’n ymddiried ynddyn nhw pan rwyf ei angen.

  • Rwy’n gallu rhagweld sut y gallai digwyddiadau’r dyfodol wneud i mi ac i eraill deimlo.

  • Rwy’n gallu dangos empathi tuag at eraill.

  • Rwy’n gallu deall sut a pham mae profiadau yn effeithio arnaf i ac ar eraill.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Dyniaethau

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n dechrau deall beth yw hawliau dynol a pham maen nhw’n bwysig.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu cyfleu syniadau, teimladau ac atgofion ar gyfer cynulleidfa ac ar gyfer dibenion a chanlyniadau yn fy ngwaith creadigol.
Back to top

Ble nesa?

Stori Tegan. video

Mae Tegan yn cau ei hun allan o'r byd go iawn, ac yn cael cysur o chwarae gemau cyfrifiadurol yn ei hystafell wely. A fydd hi'n dod o hyd i gryfder i gamu allan o'r byd digidol?

Stori Tegan

Stori Trystan a Macs. video

Mae Trystan a'i frawd Macs yn cael eu bwlio yn yr ysgol, ond ddim yn dweud wrth unrhyw un. A fyddan nhw'n gadael i'r bwlis gario ymlaen, neu'n penderfynu siarad gyda rhywun?

Stori Trystan a Macs

Stori Tyler. video

Mae'r peth lleiaf yn gwylltio Tyler ac yn achosi iddo golli ei dymer. A fydd yn gallu dysgu i'w reoli a siarad am ei emosiynau?

Stori Tyler
Back to top