Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,20 May 2025,34 mins

SeriesMeddwl yn Wahanol gyda Bethan Richards

Kristy Hopkins

Lleisiau Cymru

Available for over a year

Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu. Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’i blaen cyn iddi deimlo’n ddigon hyderus i wisgo cymhorthion clyw a byw ei bywyd fel person byddar. Bellach, yn athrawes i blant a phobl ifanc byddar yn Ne Cymru, mae hi hefyd yn ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu hi a’i theulu, gan annog pawb i ddysgu rhywfaint o Iaith Arwyddo Prydain. Daw’r awch i weithredu wedi i’w merch gael ei geni’n hollol fyddar. Cawn glywed am eu taith wrth iddi benderfynu rhoi mewnblaniad cochlear i’w merch, a’r cymhlethdodau a ddaeth yn sgil hynny. Er gwaethaf y cyfnodau tywyll, mae ysbryd cadarn Kristy yn disgleirio wrth iddi rannu ei buddugoliaethau a'i gweledigaeth o fyd byddar i blant y dyfodol.

Programme Website
More episodes