Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,24 Apr 2025,52 mins

Rhy hwyr i Rambo greu gwyrth yng Nghaerdydd?

Y Coridor Ansicrwydd

Available for 90 days

Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig. Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn credu mai penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ydi'r ateb. Ac am ddiweddglo sydd ar y gweill yn yr Adran Gyntaf wrth i Wrecsam a Wycombe gyfnewid lle unwaith eto yn yr ail safle hollbwysig. Gêm enfawr arall i ddod ar y Cae Ras ddydd Sadwrn wrth i Charlton ymweld, gyda'i rheolwr Nathan Jones yn ychwanegu hyd yn oed mwy o sbeis i'r achlysur wrth alw'r clwb yn "syrcas"!

Programme Website
More episodes