Episode details

Radio Cymru,3 mins
Datgelu grŵp asgell dde eithafol mewn ymchwiliad cudd y BBC
Available for over a year
Mae 'na alwadau am wahardd grŵp asgell dde ac i'r heddlu ymchwilio i rai aelodau, ar ôl i ymchwiliad cudd y BBC ffilmio pobl yn y grŵp yn dweud y dylai mudwyr gael eu saethu. Mae angen newid y gyfraith i wneud grwpiau fel Patriotic Alternative (PA) yn anghyfreithlon ar frys, meddai cyn-Gomisiynydd Gwrth Eithafiaeth y DU y Fonesig Sara Khan. Treuliodd newyddiadurwr cudd y BBC flwyddyn yn ymchwilio i'r grŵp gan recordio aelodau'n defnyddio iaith hiliol. Fe wnaeth y newyddiadurwr drafod ei brofiadau ar raglen Dros Frecwast. Darllenwch fwy am y stori ar wefan Cymru Fyw.
Programme Website