Episode details

Available for over a year
Dawel Nos Nos unig, nos o henaint, ei haelwyd sy’n greulon ddi-geraint, nos yn cau heb seiniau saint o’r pafin, lle daw’r ddinas i hawlio’r Nadolig o’i chwmpas (criwiau hwyl mewn cytgord cras). Ei Gŵyl hi sy’n ddafnau glaw o boenus, ar baen yn llif distaw, Gŵyl heb gwmni, drwyddi draw, hithau’n eiddil-bendilio’n un â’i chloc, a chlecian mae’r radio hyd oriau’r hwyr yn ei dro. Cau’r cyrtens; pa seren sy? Am heno, dim un, ac mae’r gwely’n fwy oeraidd, mae yfory’n rhy wag, ond daw anrhegion a thylwyth, a hewl o angylion drwy glwyd ei breuddwyd o’r bron am eiliad... a dala dig yn ei hôl y mae’r nos anniddig, nos o henaint, nos unig. Aron Pritchard
Programme Website