Episode details

Available for over a year
"Breuddwydio yn Rafah" Heno, a nunlle yn dawel fe gaeaf fy llygaid yn dynn ac wedi gafael ar gudyn o drwmgwsg, be glywai, o rywle, ond hyn: Sŵn plantos, fel fi, yn sgrechian, ond nid sgrechian fel fi maen nhw chwaith. Nid sgrechian a’u gyddfau yn gignoeth, a’u hofnau yn llyncu eu hiaith. Ond sgrechian am eu bod nhw mor hapus. Sgrech lawn direidi a sbri. Sgrechian llawn chwerthin a chariad, sŵn sydd yn atgof i mi. Fe’u gwelaf, trwy amrant breuddwydion yn canu a dawnsio yn rhydd. Eu bywydau yn tincial fel grisial, eu sgrechfeydd yn gyfeiliant i’r dydd. Ac os na fydda i yn cael deffro, os na ddaw, diwrnod arall, i mi, dwi’n gobeithio y cai fyw’r tro nesa mewn lle tebyg i hwn, efo chi. Casia Wiliam
Programme Website