Episode details

Radio Cymru,06 Feb 2024,13 mins
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 6ed o Chwefror 2024
Y Podlediad Dysgu CymraegAvailable for over a year
Pigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent Cemetery Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological Trust Ddaru nhw Wnaethon nhw Ymchwil Research Dogfennau Documents Oes Victoria Victorian Age Ehangu To expand Bwriad Intention Stad ddiwydiannol Industrial Estate Pigion Dysgwyr – Robat Arwyn Ychydig o hanes Mynwent Tanysgrafell yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd yn gallu helpu'r cof wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae dau ddeg pum mil o bobl wedi bod yn rhan o astudiaeth ddangosodd bod gwell cof gan bobl oedd wedi bod yn chwarae offeryn neu oedd yn aelodau o gôr. Ydy hynny’n wir tybed? Wel dyma arweinydd Côr Rhuthun, Robat Arwyn, ar Dros Ginio bnawn Mawrth yn dweud pam ei fod e’n cytuno gyda’r astudiaeth... Offeryn Instrument Arweinydd Conductor I gyd ar y cof All by heart Arwyddion cerddorol Musical gestures Cydsymud Coordination Ymennydd Brain Yn effro Awake Gradd Grade Gweddill y teulu The rest of the family Pigion Dysgwyr – Snwcer Felly dyna ni, os dych chi eisiau gwella eich cof ymunwch â chôr! Cafodd Caryl Parry Jones gwmni Elfed Evans ar ei rhaglen nos Fawrth ddiwetha. Mae Elfed yn aelod o Glwb Snwcer Pwllheli a chafodd e gyfle i hyrwyddo’r clwb yn ei sgwrs gyda Caryl. Gofynnodd hi i Elfed ers pryd mae e wedi bod yn aelod o’r clwb….. Hyrwyddo To promote Wedi gollwng Dropped Denu To attract Poblogaidd popular Pob gallu Every ability Pigion Dysgwyr – Steffan Rhodri Elfed o Glwb Snwcer Pwllheli oedd hwnna’n sgwrsio gyda Caryl Parry Jones. Yr actor Steffan Rhodri oedd gwestai arbennig Bore Sul. Mae e wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar fel esboniodd e wrth Elliw Gwawr... Yn ddiweddar Recently Ar fin dod mas About to come out Wedi ei gyfarwyddo Directed Gwaith dur Steelworks Teulu cyffredin Ordinary family Ffoaduriaid Refugees I raddau To an extent Mae’n anochel It’s inevitable Pigion Dysgwyr – Geraint Rowlands Wel mae Steffan Rhodri wir wedi bod yn brysur yn ddiweddar on’d yw e? Yn y clip nesa ‘ma byddwn yn clywed y patholegydd o Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, Geraint Lloyd Rowlands, yn sôn am sut buodd e’n codi arian er cof am Alan, ei ffrind o ddyddiau ysgol. Buodd Alan farw o Gancr y Pancreas dwy flynedd yn ôl, a dyma Geraint ar Bore Cothi ddydd Mercher diwetha i sôn mwy am yr her mae wedi ei chwblhau i gofio am ei ffrind... Her A challenge Wedi ei chwblhau Has completed Campfa Gym Wedi hen gyrraedd Easily reached Ymdrech Effort Pigion Dysgwyr – Bryn Terfel Wel dyna wych, Llongyfarchiadau mawr i Geraint am gerdded mor bell er cof am ei ffrind, on’d ife? Mae’r canwr opera Bryn Terfel newydd ryddhau albwm newydd, a chafodd Alun Thomas sgwrs gyda fe ar y rhaglen Bore Sul. Buodd Bryn yn sôn am yr adeg pan ganodd e ddeuawd gyda Sting. Gofynnodd Alun iddo fe sut wnaeth e gyfarfod â’r canwr pop enwog am y tro cynta Newydd ryddhau Just released Deuawd Duet Cyngerdd mawreddog A grand concert Cefn llwyfan Backstage Arddull Style Cysylltiad Connection Cychod Boats Rhediad A run
Programme Website