Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,11 mins

"Ma gormod o oscigen yn cyrydu dur!"

Dros Ginio

Available for over a year

"Ma gormod o oscigen yn cyrydu dur!" Ers degawdau daw cwynion am y gorwel diwydiannol hon yn difetha tirlun tir a môr gyda'i dyrau o ddistopia myglyd. Ond nawr daw machlud i dai bach Aberavon, heb gobaith gorwel newydd, dim ond tywyllwch a thawelwch diwedd dydd heb ffrwd y mwg o'r tân sy'n llosgi fel dicter y durweithwyr, dyfal donc a dyrr eu dyfodol. Ond tonc a ddaw heb hoelen naw, heb fframwaith i gryfhau'r sylfaen, wedi adeiladu ar addewid mor wan a choncrît uwchben pennau plant ysgol. Dros £500,000,000 o fuddsoddiad i fagu gobaith mewn newid newydd i'r genhedlaeth werdd gan lywodraeth las mewn ardal goch sydd wedi bod yn gweiddi'n groch am gymorth ers talwm, i godi ffôn i drafod, ond mae gormod yn y fantol i greu'r ddelwedd o achub mewn byd o ddiystyru bywydau bob dydd gweithwyr tref ar arfordir y wlad bach drws nesaf. Ond yn chwim, ar ôl gwneud dim ond dadle mewn awyrgylch iasoer, toddwyd yr elfen o gydweithio i lawr trwy gofannu pel-droed gwleidyddol yn y ffwrnais leol. Doedd dim sbarc yn mhwerau'r Senedd a chnoi cil fu San Steffan wrth i bedwar mil barhau i greu deunydd caled i farchnad meddal y cyfandir oedd â dim teyrngarwch bellach i dyrrau diwydiant dur De Cymru. Felly dyma'r cwymp ar ôl blynydde o'r busnes brwnt, yn creu cynnyrch adeiladu a pheirianneg pwysica'r byd; 99% haearn, 1% carbon. Cymysg o ddau briodwedd sydd yn dra wahanol ar wahan ond yn gryfach wrth ddod at ei gilydd. Bron 100% yn gryfach nac unrhyw elfen arall yn y byd, ond gall gormod o ocsigen gyrrydu, ac yn Mhrydain, ble mae canrannau yn cyfri, fe wnaeth 52% fwy o ddifrod i ddyfodol dur nac unrhyw rhwd i ingot, gwleidyddion yn esgus becso dam am bobol Port Talbot, yn chwarae gemau yn lle trafod masnach, a dyna bywoliaeth tref wedi diflannu mewn fflach. Sion Tomos Owen, Bardd y Mis - Ionawr 2024

Programme Website
More episodes