Episode details

Available for over a year
IoNawr IoNewydd Sut mae dathlu diwedd blwyddyn a dechrau un arall? Beth yw’r wers i ddysgu trwy ynysu’r eiliadau penodol i ddarganfod dyfodol obeithiol o bresenol canol nôs pan ddaw'r tic ola toc diwedd Rhagfyr? Pan ddown ni at ddechrauad newydd nefol bob 29.5 dwrnod y cylch lleuad? Pan mae'n planed pitw ni'n troelli rownd yr haul, mewn cysawd bach o fewn bydysawd sy'n fwy nac gall ein mesuriadau fathemategol gyfri? Nace, trwy addewidion. Y planhigion tŷ o obeithion dyn; Llawn gobaith i ddechrau cyn blino a troi'n llipa yn syllu arnoch o bell tra bo chi'n mwydro am beth allech chi wedi wneud yn well? Blwyddyn newydd, Fi newydd. Sgwennu rhestr mewn trefnydd newydd. Urddas y rhif olynol embossed ar flean y clawr, fel tatw dros-dro y dyfodol, fydd yn diflanu ymhen 365 diwrnod. Arogl fresh y gwaglefydd i lenwi, clywed crac cadarnhaol mis Ionawr yn agor, a co’r cychwyn cyntaf i rhestri beth sy'n rhaid i mi wneud... Felly; Dwi angen adeiladu shed, Adeiladu perthynas gwell ‘da teulu pell, Adeiladu silffoedd yn y cwtch Adeiladu’r wal yn y cwtch lle fydd y silffoedd yn hongian, Adeiladu cyhyrrau mwy fel yn y llun ohona'i ar wyliau deng mlynedd yn ôl, cyn magu bol, cyn magu dyled, cyn magu plant, pan oedd rhamant dal yn fyw, pan oedd lliw dal yn fy llygaid, pan oedd fy nhalcen heb grych, pan odd drych yn dangos breuddwydion i ddod nid atgofion o amser a fu. Cyn i orymdaith di-baid amser rhwymo marwoldeb dynol i'n agwedd ar fywyd a ngorfodi i ailystyried creu rhestr fydd yn fy hyrddio allan i anialdir myfyrdod a phendroni nihilaidd, yn crwydro o un mis i’r llall yn gaddo na'i wneud ddechrauad ohoni wrth i brysurdeb ein cynllyniau ben baladr lewni’r calendr ond cyn troi rownd, dwi flwyddyn yn hynnach, mae'r tennyn yn dynnach mae'r dyddiau'n fyrrach, ac mae'r byd yn llosgi ei ffordd i mewn i flwyddyn nesaf yn barod!! Ond so'r beiro ma'n gweithio felly na'i ddechreuad newydd arall... fory.
Programme Website