Episode details

Available for over a year
Disgwyl Enfys Ar ddiwrnod caleidosgop o liw fel hwn ble mae’r awyr yn las, y glaswellt yn wyrdd, a’r crysau’n goch ar gefn pob menyw gwerth ei halen, mi welwn enfys yn codi o fan y tu hwnt i’n gobeithion ac mi daflith siâp bwa’n berffaith at y nod, fel rhwydo pêl yn giwt i gôl, yn wyrthiol. Heddiw, mi wyliwn ninnau’n gegrwth nes credu’n llwyr, fel un wraig, yng ngallu’r cawresi hyn i chwalu’r graig a churo’u gwrthwynebwyr, eu sgubo o’r neilltu’n slic, bron fel tric, mewn storm o fellt byw a fflach-ddawnsio, ffliciau troed fflash a gwyllt-wibio nes cipio cwpan yn drysor gwerth ei gael i sŵn curo dwylo fel cawod o law rhywle o du draw i’r enfys. Elinor Wyn Reynolds
Programme Website