Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,6 mins

Gwaith Fferyllydd wedi’i drawsnewid yn gyfan gwbl

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Eleni mae Geraint Davies yn ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda, swydd y bu’n gwneud am dros 30 mlynedd. Bu hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003 , yn fferyllydd lleol am ddegawdau ac yn aelod blaenllaw o glwb tennis lleol. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Pentre yn y Rhondda ac yna aeth i astudio Fferylleg ym Mhrifysgol Llundain Yna yn 1975 agorodd Fferyllfa ei hun yn Treherbert a bu’n gweithio yno am 43 blynedd. Agorodd gangen hefyd yn Nhreorci. Mae gwaith Fferyllydd wedi’i drawsnewid yn gyfan gwbl ers i Geraint ddechrau ar ei yrfa. Yn y dechrau, i gyd roedd yn ei wneud oedd dosbarthu cyffuriau ag ati. Newidiodd y sefyllfa yn y 10 mlynedd cyn iddo ymddeol. Roedd cleifion yn dod i mewn i’r Fferyllfa wedi cael eu hanfon yno o’r syrjeri. Roedd yn rhoi cyffuriau iddynt heb orfod talu. Roedd pobl yn cael chwistrelliad y ffliw a covid gan y Fferyllfa.

Programme Website
More episodes