Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,21 mins

Bardd Mis Chwefror - Sion Tomos Owen

Rhys Mwyn

Available for over a year

“NO DANCE MUSIC IN THE MAIN HALL” ar ôl Pentre & Ystrad Labour Club, 2001 Yng ngrombil atgofion fy arddegau ar bigau drain i fwynhau nos Wener, gyda llai na tenner yn fy mhoced i ddal tren lawr y cwm, y lynx africa'n swmpus yn y cerbyd, y posibiliadau enbyd, jîns digon tyn i frifo ac yn dal i ddysgu'r gwahaniaeth rhwng goth ac emo. Yr un poster bob tro: "Friday Night band showcase £3 entrance NO DANCE MUSIC IN THE MAIN HALL!” Mewn llythrennau bras O dan y disco ball Ym môl y fuwch Uwchben y Labour Club. Camau ysgafn trwy drysau trwm, hwn oedd y ddefod heb dafod, dim trafod wrth y lounge bar, i wahannu'r genhedlaeth gyda grisiau, a prisiau wedi pegio, Gwyn llachar yn erbyn y du, ar yr unig wal heb anaglypta a'r barmaid 'da tattoo o'i chariad presenol ar y fraich oedd yn tynnu'r peints neu'n taflu chi mas. Grwpiau glasoed, gwynebau gwyn llachar, o dan gwallt du, a rheini lawr stâr yn syllu'n syn ar dyllau mewn clustiau yn fwy na’i cegau agored. Fel pysgod Yn ein môr o "gerddoriaeth". Yn aros am y llanw stormus ddaw o'r drum kit, mellt yn ein traed yn tarranu yn mhob mosh pit. Bob yn ail weekend welai'r boi o’r chweched Yn troi mewn i ddyn, Yn rhedeg ei fysedd Dros gyllell o gitar A crafu riff anniben i mewn i’m mhen, Â bwyell o fâs yn dirgrynnu nghalon yn lythrenol Gan bo’i Marshall stack yn fyddarol, Tinitus yn uno pawb, fel y stamp ar gefn llaw, dal yna'r bore nesa, yn brawf o' chi yna. Ac er bod y canu wastad yn Yoko y jôc oedd bo band gallu ffurfio ar nôs Iau ac agor y noson wedyn, yr hedyn o obaith bod taith yn bosib (Neu ail gig o leia). Y llen melfed coch yn cael ei dynnu i'r ochr â rhochian llais Nu Metal yn dechrau sgrechian i mewn i'r mic a'r fight anochel ddaw cyn i Freddie a'i rhapsody rhoi'r ffidil yn y sound system, mayhem bach diniwed ar ddiwedd y nôs yn troi'r golau 'mlaen, yn wyn llachar ar ôl y du, i ddanfon bawb shathre ar bererindod i ffeindio car mam a dad, kebab neu i grwydro tan hwyr yn deall fydden ni'n fyddar tan fory heb wybod eto taw hiraeth oedd yn canu yn ein clustiau. Sion Tomos Owen

Programme Website
More episodes