Episode details

Available for over a year
BRWYDR FAWR STADIWM OLYMPAIDD BAKU Er y tri deg mil di-ildio o Dwrcs ar dân yn croch-udo, ni ’di’r tîm sy’n codi’r to, yn canu’n Baku heno. Yn Baku, mewn hetiau bwced, yn dwym, ar ôl dydd o yfed, y gwir oedd, roedd gennym gred, hen awydd i greu niwed. Ar ôl rhyw how-reoli, a cheisio’n llawn chwys, guro’r goli, drwy ei rediadau di-ri, yn ei amser, daeth Ramsey. Ambell reg. Ambell gyfle gwych. A Bale a’i gic boeth i’r entrych. Amenio. Methu mynych. Creu sioe – heb yr un crys sych. Os heno Rambo fu’r un i godi i’r gad, i’r amddiffyn mae mawl. Mewn gwyrdd a melyn, clod diamod i bob dyn! Connor, mae Baku’n canu dy enw. Ar dân y mae Cymru. A nhw’r Eidal yn sâl sy’: wobyl gânt o’n hwynebu. Rhys Iorwerth
Programme Website