Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Gwion Hallam - Coch Coch Coch

Ewro Marc

Available for over a year

Coch Coch Coch (cerdd i raglen Ewro Marc wedi gêm gyfeillgar Albania) Coch yw Connor, Bale a Ramsey Coch yw Levitt, Ben a Harry Coch yw Tyler, Rubin, Neco – Ai ’mond y fo wnaeth drio sgorio? Coch yw Rodon, Mepham, Lockyer, Hennessy, Adam, Smith a Gunter, Coch yw Ampadu a Rhys – Llinell goch oedd James ar frys. Coch yw Ward a Kieffer Moore, Brooks, Cabango a’r ddau Joe, Y mwya coch yw Joniesta – Coch o’i draed hyd at ei glustia! Ond coch r’un fath fydd Chris drws nesa, Coch fydd nain a taid yn Bala, Coch fydd Twm a Moi a Nedw, Coch fydd Cymry da Penbedw. Coch fel Bale fydd Bybs a Ric - Coch wrth wylio ngardd y Fic, Coch fydd pawb fel Joniesta Coch ein cân a choch ein crysa’. Eto – Gymry - byddwn goch, Byddwn wal sy’n canu’n groch, Ar y cae neu’n gwylio’n tŷ Wal y crysa’ fyddwn ni.

Programme Website
More episodes