Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Cerdd "Yuri Gagarin" - Gwenallt Llwyd Ifan

Aled Hughes

Available for over a year

Yuri Gagarin Est ti, Yuri Gagarin, ar y ffordd tu hwnt i’r ffin, haenen cynhaliaeth inni; ffin nwy’n ein hamddiffyn ni. O oleuadau’r gwledydd sy’ ar dân drwy’r nos a’r dydd, i’r nos a’r cosmos yn cau yn dawelwch di-olau. Un dyn yn dilyn y dydd i’r lle hwn a’r sêr llonydd. Oedaist, a syllaist ar sêr yn hollti yn y pellter, a galaeth yn y golau’n fôr o haul ar blaned frau. Y berl las yn bur o liw, mor heulog o amryliw. Tybed, wrth fyned heibio’r erwau maith oedd ar y môr, a oedd gwedd o fudreddi yno i weld arni hi? Awyr bur o dipyn bach yn anwesu’n gynhesach? Neu ryw haen o wraniwm yn lliw gwynt dros ambell gwm? Y môr hen yn dadmer iâ i waelod rhewlif ola’? Ein ffawd yw cynnal ein ffin i ti, Yuri Gagarin. Gwenallt Llwyd Ifan

Programme Website
More episodes