Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd gan Osian Wyn Owen Bardd Mis Awst - Llosgi - y tanau yn yr Amazon.

Galwad Cynnar

Available for over a year

LLOSGI (O weld adroddiadau am dân yn yr Amazon tra ar wyliau) Rhywle, ymhell, mae gwlad nad ydyw’n bod, nad yw’n cyfrannu dim at droi y rhod. Nes daw, un dydd, yn sbloets o goch i’n sgrîn i’n troi yn fyddin o emojis blin. Ond c’neswn ninnau’n dwylo yn y gwres a gwadu bod y nos yn llosgi’n nes… Fe aiff y sôn ar led, fel tanchwa ddig, am y llanast, ond dim ond stori big ydi hon, meddan nhw, tra’n procio’r glo a gwadu bod y tân yn mynd o’i go. Er duo esgyrn byd hyd at y mêr, be allwn ninnau ’neud ond clicio share? Ac er i ’sgyfaint byd besychu mwg, a phawb o’r farn fod pethau’n mynd yn ddrwg, be wnawn, ond c’nesu’n dwylo’n yn y gwres a gwadu bod y nos yn llosgi’n nes?

Programme Website
More episodes