Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

BBC,2 mins

"Creu Mêl" gan Aneirin Karadoc

Ffion Dafis

Available for over a year

Creu Mêl (i ddathlu Gouel Broadel ar Brezhoneg, 2019, sef Gŵyl Genedlaethol y Llydaweg sydd eleni wedi gefeillio gyda Thafwyl.) Bu rhai ar ras, fel gwenyn, mor brysur yn hel paill da i helpu Llydawyr i heidio yn siaradwyr a chreu si ac yn ei sain hi cawn godi gwydyr. Cawn barhau i’w siarad, cyn brysured, fesul blodyn bob blwyddyn heb ludded am mai gŵyl lle mae i’w gweled fan hyn, yn fêl ein gwenyn, yw haf Langoned. Gouel Broadel yn baradwys, ynys bellennig i orffwys rhag y dydd a’i Ffrang-reg dwys. Gouel Broadel rhag i bryder fwyta ein haf eto’n ganser, yn don amheuon drwy’r mêr. Gouel Broadel dros barhad neithdar hen iaith dra hardd yr henwlad a Diwan i’w blodeuad. Nid yw Gouel Broadel yn gweld breuder, nid lle di-hid, ond Llydaw o hyder rhag trengi’r si, hi yw’r her, wenyn gwlad: o greu mêl, wastad, fe geir melyster. Aneirin Karadog

Programme Website
More episodes