Episode details

Available for over a year
Pan ddaeth yr haf ataf A phan ddaeth yr haf ataf i ddiosg ei dillad, ei dail mân yn danau bach o flaen y gaeaf, yn denau, wedi rhoi gormod a finnau ddim yn gwybod beth i’w gynnig, dyma fi’n deud, ‘Dwi wedi plygu’r ardd i mewn i’r bin a’i gadael ar y pafin, efo’r holl fân bethau nad o’n i’n disgwyl fyddai’n tyfu trwy’r wal gefn, tra ’mod i yn y tŷ yn chwarae babi. A’r pethau o’r parciau – mi wnes i adael y rheini ar loriau, dan wadnau, ar feinciau, heb wybod tan rŵan ’mod i’n gadael rhywbeth.’ Rhywbeth dwi’n fodlon ei adael, yn aflonydd, yn dal i rygnu hyd y strydoedd, yn dal i geisio cwrdd ar hap mewn caffis a chyfleusterau babis, heb ddeall eto ’mod i wedi mynd. Ella y dylwn i fod wedi deud – neu adael nodyn – rhywbeth mwy cadarn na gardd mewn bin. Rhyw sioe, ella, ..a phawb yn rhewi a syllu: wynebau’n wyn a’u genau’n disgyn wrth ein gwylio yn mynd cyn Medi. Tân gwyllt cynta’r tymor, tri’n mynd tua’r môr. Agorwch y gwin, byddwch yn gas i’r sawl sy’n gweini am nad ydyn nhw’n deall ’mod i wedi gadael rhywbeth
Programme Website