Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Bytholrwydd

Jennifer Jones

Available for over a year

Dilyniant i’r gerdd gyntaf a ysgrifennais fel Bardd y Mis, Radio Cymru. I fam a gollodd fab a’r boen a’r braint o gael ei galw’n ‘Mam’ wedi’r golled honno... Doedd hi a atebodd, mor hapus, i ‘Mam’ fyth yn dyfrio’r goeden geirios a oedd yno wrth ei groesawu i’w grud, a wywodd wrth weld yr aelwyd yn fud sy’n sefyllian wrth ddrws yr aelwyd o hyd. Y mae hi, sy’n gwingo wrth glywed ‘Mam’ yn dyfrio’r goeden geirios erbyn hyn trwy’i dagrau, a chosi’r awel â’i geiriau, ac adlewyrchiad y petalau pinc yn wrid-gwneud ar ei gruddiau - ond gerfydd ei chysgod, llusga’i thraed i ddilyn dafnau dail a siwgwr blodau nes llusgo’n ddim ond cragen i enaid ond er ei cholled tyf hi’n dawel fel coed afalau yn fyrdd balch o flagur ei hadau – bytholwyrdd ac wrth i’r afalau fygwth pydru ni wna hi ond goglais gwywo ac ymfalchïo, erbyn hyn, wrth glywed ‘Mam’.

Programme Website
More episodes