Episode details

Available for over a year
Cerdd gan fardd y mis Morgan Owen i ddathlu Dydd Santes Dwynwen. Codi’r haenau dwfn; tynnu’r egin o’r pridd; disgwyl y dydd heb weld y glasu ac esgyn heb sylwi i’r brig; cyrchfan i’r crwydro fu gynt heb nod; lluwchfeydd manod; y llawr danat pan fo’r byd yn llwm; dwy galon yn fwrlwm; gwybod fod sêr o hyd hwnt i olau’r ddinas; cymod galanas; carreg ateb i lais unig; ailgodi’r meini ysig; adnabod mewn torf; meysydd haf heb oror; wedi tryblith, hedd; weithiau anhunedd; breuddwyd nad oes mo’i diwallu, a’r byd ar wastad dau: ni.
Programme Website