Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Ar y trothwy (dechrau newydd)

Bore Cothi

Available for over a year

Hudwn dân o’r lludw a chân o ddryswch cur pen a gwylanod y bore hwn; llamwn erchwyn y gwely fel dyn newydd atgyfodi; sathrwn sêr y llynedd yn sgyrion gwydrau chwâl a rhuthro i fin y môr i dderbyn nodd y gwynt a gwaed newydd yr heli. Aeth blwyddyn arall i’r stafell gefn: clustfeiniwn ar y trothwy uwch ymchwydd byd sy’n gwybod bod y rhod yn troi a'r oriau’n hirhau; gwrandawn am atsain ola’r flwyddyn nas cawn yn ôl a’r lleisiau nas clywn byth eto. Heriwn y mudandod sy’n aros hwnt i’r miri drwy ymddiofrydu y llosgwn yn llacharach byth eleni. Morgan Owen

Programme Website
More episodes