Episode details

Available for over a year
Myfyrdod Millennial Sut mae mesur y blynyddoedd? Yn y nosweithiau nad ydan ni’n cofio wrth i ni rolio, yfed a dawnsio ‘nes bod y wawr yn ymestyn dros y gorwel, a’r nos yn moesymgrymu i ddiwrnod newydd? Neu ym maint ein camau - llewyrch ein llwyddiannau wrth i ni redeg yn gynt a chynt, yn uwch ac yn uwch, heb wybod i ble ‘da ni’n mynd na pham mor hir y medrwn ni ddal ati? ‘Da ni gyd isio pefrio, ond hawdd anghofio ein bod ni oll yn llwch yn nwylo serog y bydysawd. Sut i gadw’r tân yn fyw sy’n bwysig, heb losgi ein hunain, nac eraill, ac i ddisgleirio hyd yn oed pan mae’r fflam wedi pylu, a’n disgleirdeb yn ddim ond atgof yn awyr y nos, yn moesymgrymu i ddyddiau newydd. Beth Celyn
Programme Website