Episode details

Available for over a year
Annwyl Evangeline Annwyl Evangeline, dwi’n teimlo’n flin. Mae pawb yn ymddangos i fyw drwy eu sgrin! A dwi’m yn siŵr sut i fyw a bod pan mae pawb - o hyd - yn chwilio am glod. Waeth heb i mi beidio â gneud dim byd os nad ydw i’n rhannu â phawb o hyd. Yn enwedig os ydw i ben fy hun. ’Nes i hyd yn oed ’neud o os does ‘na’m llun!? Weithiau dwi’sio taflu fy ffôn i’r bin, mynd i ganol y wlad a neidio mewn llyn, a nofio a throelli a syllu i’r nen, er mwyn stopio fy hun rhag colli fy mhen. Ond wedi’r holl gwyno, gofidio a deud, weithiau ’sna’m drwg mewn rhannu a gneud, a braf yw rhannu a chefnogi ar sgrin pan mae pawb arall yn y byd yn teimlo’n flin. Beth Celyn | 09.10.18
Programme Website