Episode details

Available for over a year
Chwaraeodd Superman andros o dric pan wasgodd ei ddwrn - a gyda chlic - troi lwmp o lo yn ddeiamwnt. Ond ni all yr arwr ffablaidd hwn droi lwmp o lo yn ddeiamwnt, mwn; mae’r byd yn llawer cymhlethach, llawer prydferthach na gwasgiad dwrn. Felly pan asia dy amheuon yn un a siarsia dy ofidiau i ti rasio ‘mlaen, cofia nad oes cywilydd mewn cilio, mewn camu nôl a chofio be sy’n bwysig. Meiddia feddwl dy fod yn fwy na chryfder chwedlonol, achos nid mewn gwasgiad dwrn y mae magu sglein. Beth Celyn
Programme Website