Episode details

Available for over a year
Cura’r plant bach wrth y drws. Glyn yn flaidd a Ffebi’n wrach. Direidus fwganod y nos. Sibrwd a chwerthin yn y düwch. Eu hwyliau a’u hofn sy’n creu’r naws. Colur gwyn a du a choch. Llieiniau gwyn a gwaed ffug, coch. Yn hel loshin o ddrws i ddrws. Hwyl a dychryn yn rhan o’r naws. Fampir yw Twm brawd Ffebi’r wrach. Chwerthin a sibrwd yn y düwch. Pwmpen fawr yn goleuo’r nos. Masg arswydus oren y nos. Lliwiau braw; gwyrdd, porffor, coch. Lynfan’n gysgod yn y düwch Wrth i Miss Jones ateb y drws A hithau wedi’i gwisgo’n wrach. Hen rai hefyd yn licio’r naws. Noswaith draddodiadol ei naws. Plant a meirw’n crwydro’r nos, Fampir, ystlum, sgerbwd a gwrach. Glyn y bleidd-ddyn a’i safn yn goch. Dyma’r criw eto wrth y drws, Yn sefyll yno yn y düwch. Criw chwareus yn y düwch. Fel’na mae, yn gymysg ei naws, Y gwyll yn chwennych golau’r drws, Ffin rhwng gwawl a mwrllwch y nos. Difyrrwch gwyn, llawenydd coch, Loshin melys ar wefus gwrach. Nawr mae blinder yn drech na gwrach Dan flanced hudol y düwch. Llygaid plant i gyd yn goch A phob un yng ngafael rhyw naws Gysglyd a hwyl ac ofn y nos Yn dirwyn i ben wrth y drws. Wybren goch hiraethus ei naws, Breuddwyd gwrach mewn siôl o ddüwch Gefn trymedd nos a’r gaeaf wrth y drws.
Programme Website