Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

4.7 awr bob dydd

Bore Cothi

Available for over a year

Gallwn fod wedi dysgu iaith. Llythyru â ffrind newydd a fyddai’n ehangu fy ngorwelion. Bonjour Marie-Isabelle, comment allez-vous? Mynd ar fy ngwyliau i bentref gwledig. Archebu baguette o’r boulangerie heb ymgynghori â llyfr. Chwerthin gyda’r brodorion a chanmol eu cŵn â hyder yn eu hiaith. Ond yn lle hynny derbyniais geisiadau ffrind gan bobl y gwyddwn na fyddwn yn eu cydnabod yn y stryd a dilyn ambell gynnen gyhoeddus, gryptig I really wish people would just say things to my face a Some people really need to grow up. Gallwn fod wedi tynnu’r beic o’r sied. Dilyn fy nhrwyn a theimlo’r gwynt yn fy ngwallt. Arogli’r tymhorau. Colli sawl stôn. Magu cyhyrau a buddsoddi mewn leicra. Ond yn lle hynny, sgroliais drwy luniau o brydau amheuthun, diodydd diddorol a smwddis hunangyfiawn. O ie, ac edrych ar fapiau Strava pobl sydd wedi beicio neu redeg yn bellach na cherdda i fyth. Gallwn fod wedi darllen nofelau Petrograd, Awst yn Anogia, Gwen Tomos. Ymuno â chlwb llyfrau, cadw nodiadau i’w trafod yn fanwl, wyneb yn wyneb. Amsugno’r ymateb a darllen y llyfrau eto. Pam lai! Ond yn lle hynny, hoffais drwy godi bawd gadewais sylwadau diddychymyg a rhannais farn rhywun arall. Hyn i gyd wrth ddisgwyl am y bws. Gallwn fod wedi dysgu i chwarae offeryn. Y delyn efallai? Na, rhy rhwydd. Y delyn deires. Ymarfer nes bod fy mysedd yn galed a rhyddhau CD erbyn y Nadolig. Ond yn lle hynny, gwyliais gi yn dynwared Elvis, cath yn gwisgo sbectol haul a gweithwraig mewn sŵ yn bugeilio pandas bach direidus. Gallwn fod wedi trawsnewid y tŷ cyfan. Paentio’r waliau’n lliwiau chwaethus, Annie Sloan-io hen ddodrefn a chreu clustogau i fatsio’r llenni. Neu o leia hongian y llun a ges yn anrheg pen-blwydd bedair blynedd yn ôl. Ond yn lle hynny, edrychais ar luniau parti plu hen ffrind yna’i lluniau priodas ac yna lluniau ei babi newydd. A chyn cysgu, gwyliais gacen chwech haen yn cael ei haddurno fel cactws. Ond y broblem yw gwn fel ffaith pe bawn yn dod yn ieithgi heini llengar cerddorol ac artistig y byddai’n RHAID i’r byd ddod i wybod am hynny a byddwn yn brolio fy llwyddiant ysgubol yn groch dros Facebook ac Instagram a Twitter i gyd.

Programme Website
More episodes