Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cymreictod

Bore Cothi

Available for over a year

Beryl Griffiths sy'n ysgrifennu cerdd ar gyfer Dydd Gwyl Dewi 2018 wedi iddi ddarllen y dyfyniad: “Welshness is a preoccupation, a political position, a form of dissent against the dominance of English culture” Cymreictod Rhywle ym mhlygion y siôl a lapiwyd amdanaf, Ym mhlethiadau ei chynhesrwydd clyd, roedd un edau, Yn batrwm hardd, yn llinyn o geinder, yn araf Ddirwyn yn gwlwm o berthyn, o gysylltiadau. Aeth rhin yr edau feddal, o’i throi rhwng fy mysedd, Yn rhan ohonof, ac wrth im fentro yn dalog Hyd lwybrau bywyd roedd yno, a’i gafael rhyfedd Yn dynn amdanaf, yn gysur pur, diysgog. Ond weithiau, pan ddaw rhai i dynnu yn yr edau, I’w datod am na welant iddi werth na harddwch, Bydd brath yr edau’n torri i’r byw a bydd creithiau Hen, hen friwiau’n llosgi yn danbaid yn y duwch. Ac felly, os gofynni pa beth yw Cymreictod, Nid safiad, na dewis, na her, hwn yw fy hanfod.

Programme Website
More episodes