Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,3 mins

Colli’r trydan

Geraint Lloyd

Available for over a year

Colli’r trydan Yng nghanol nos y flwyddyn, pan oedd y dydd yn darfod erbyn pedwar, a dim byd i’w wneud ond mynd adref i swatio’n glyd, teimlem, trwy sgriniau’n ffôns, ein bod ni’n rhydd i deithio i unrhyw le: yno’n ein cyrff ond ein meddwl ar wib drwy’r we, heb sbio ar ein gilydd a heb na bw na be nes torrodd y trydan yn sydyn; nes marw’r batri, a ninnau’n deall, wedyn, mor dywyll oedd hi. Fel pan ddaw’n eira, mae rheolau gwahanol ar adeg fel hyn: ac wrth i ni chwythu llwch blynyddoedd o’r canhwyllau, trwy drwch cysgodion rhyfedd y tŷ, o’n rhigol, gwelsom ein gilydd, a chwerthin, a’n lleisiau’n y düwch yn swnio’n newydd. Bydd raid troi’n ôl i’r haf ar hyd ryw drywydd a gwn na fyddwn ni’n dod o hyd i’r lôn wrth olau sêr na channwyll, ond wrth olau ffôn.

Programme Website
More episodes