Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Nadolig Ddoe a Heddiw

Caryl Parry Jones

Available for over a year

Dyma be hoffai o’i gael eleni i’w roi i’r fechan. Hoffai roi iddi gopi carbon o’i hen Nadoligau’i hun, y rhai sy’n atalnodi’i blentyndod, a’r cof yn euro’r cyfan fel haul isel. Festri lawn. Pasiant plant ar ei anterth: cybolfa abswrd o Teenage Mutant Hero Turtles, llieiniau llestri dros lygaid, a’r Iesu rywle’n ei chanol hi’n y gwair. Adfyrt Yellow Pages ar y bocs eto fyth. Pan oedd Quality Streets, mae o’n siŵr, yn fwy o faint, pan oedd rhew yn rhew a gwynt yn wynt go iawn, dim ond pedair sianel i fflicio rhyngddyn drwy’r pnawn, a phunt yn drwm mewn poced. Pan gwnâi coeden blastig y tro yn champion, yn arogli fel atig a thinsel yn addurn derbyniol amdani. Amser – dyna a roddai, yn ei holl ogoniant elastig, cyfnewidiol, wedi’i lapio’n ddel mewn rhubanau iddi gael ei riweindio’n flêr fel hen VHS: amser i’w rwygo ar agor, a’i daflu o’r neilltu fel papur lapio. Mi ddalith o i drio, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bron na allai o alw’r eira’i hun i lawr yn blu o’r awyr.

Programme Website
More episodes