Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,9 mins

Gwaith ymchwil daeareg arloesol ger Harlech

Galwad Cynnar

Available for over a year

Math Williams y Daearegwr yn son am waith ymchwil daeareg Mochras. Gwaith ymchwil daeareg arloesol yn cyhwyn ger Harlech Bydd tîm o arbenigwyr rhyngwladol yn dechrau ar broject ymchwil arloesol ger Harlech, Gwynedd ym mis Tachwedd 2017. Bwriad y project yw taflu goleuni ar esblygiad bywyd, hinsawdd a’r amgylchedd yn ystod y cyfnod Jwrasig, tua 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Canolbwynt y project yw drilio gwyddonol oddi ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, ger maes gwersylla Mochras yn Llanbedr, i’r de o Harlech. Caiff y gwaith ei gydlynu gan ddaearegwyr o brifysgolion Caerwysg, Leeds a Rhydychen yn ogystal ag Arolwg Daearegol Prydain. I gyd-fynd â’r project mae Amgueddfa Cymru yn arwain rhaglen ymgysylltu cyhoeddus sy’n cynnwys noson o sgyrsiau byr gan y gwyddonwyr ar nos Wener 13 Hydref, 7pm a diwrnod agored i’r gymuned leol yn neuadd bentref Llanbedr ar ddydd Sadwrn 14 Hydref, 10am–4pm. Bydd hwn yn gyfle i bobl ddarganfod mwy am y project, dysgu be’n union sy’n digwydd yn y safle drilio a pham bod daeareg yr ardal mor ddiddorol a phwysig. Bydd cyfle hefyd i drin a thrafod cerrig a ffosilau. Bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai ar y project, dan arweiniad y daearegydd lleol Dr Math William. Pan fydd y drilio wedi cychwyn, bydd arddangosfa i’w gweld yng nghlwb y maes gwersylla yn esbonio cefndir y project. Bydd cyfle hefyd i ymweld ag ardal y drilio er mwyn gweld y gwaith yn fanylach a chyfarfod ymchwilwyr daearegol. Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn cynnig sgyrsiau ar y project i gymunedau lleol. Y bwriad yw echdynnu craidd, dros 1 km o hyd, o haenau creigiau gwaddodol Jwrasig Basn Bae Ceredigion. Bron i hanner canrif yn ôl, daeth gwaith drilio ar y safle yn ynys Mochras o hyd i archif arbennig o newid daearegol. Mae arbenigwyr nawr yn ailymweld â’r safle gan ddefnyddio technoleg fodern ac offer gwyddonol. Mae’r Athro Stephen Hesselbo o Camborne School of Mines, Prifysgol Caerwysg, yn un o arweinwyr y gwaith ymchwil. Dywedodd: “Mae’r project hwn yn gyfle arbennig i ni astudio newid amgylcheddol a ddigwyddodd filiynau o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y byd yn dal i ffurfio. “Roedd y project diwethaf ar y safle hwn yn chwyldroadol. Mae’r project newydd yn taclo cwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae systemau amgylcheddol ein planed yn gweithio – sut mae cylchdro’r planedau a digwyddiadau folcanig yn cyfuno i newid cemeg y moroedd a’r atmosffer, er enghraifft.” Bydd dros 50 arbenigwr daearegol o 13 gwlad yn astudio’r creigiau a’r ffosilau sydd ynddynt er mwyn deall, mewn manylder anhygoel, sut mae amodau ar y Ddaear wedi esblygu dros 25 miliwn o flynyddoedd. Caiff y gwaith drilio a’r rhaglen ymchwil bum mlynedd eu hariannu gan y Rhaglen Drilio Gwyddonol Cyfandirol Rhyngwladol (ICDP) sy’n rhoi $1.5 miliwn, a Chyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU (NERC) sy’n rhoi £3.7 miliwn. Mae disgwyl i’r gwaith ar ynys Mochras ddechrau ym mis Tachwedd 2017, 50 mlynedd wedi’r gwaith drilio diwethaf ar y safle.

Programme Website
More episodes