Episode details

Available for over a year
Taran Tom Cyn bod hi’n nos daeth drosom Sŵn sgrechian, sŵn taran Tom, Ergyd drwy’r hollfyd oedd hi - Laser trwy wyll Tblisi. A charwn wylio’n chwarae Gyrnol pob un canol cae - Joe Allen fel Dyson dwys Yn hwfro’r bêl yn gyfrwys. Pan ddaw nos Lun fe gawn ailuno, Hydref rhwydd ei hyder i freuddwydio, Coch fydd y mur, a Chymru’n ddiguro, Daw sŵn ymysgwyd, a sôn am Mosgo. Bydd Gwyddelod yn rhodio adre’n chwil A bois O’Neill o dan bwysau’n wylo.
Programme Website