Episode details

Available for over a year
"Fel Bardd Plant dwi'n treulio lot o amser efo plant ac yn aml yn cael fy synnu pa mor sylwgar ydy nhw a pha mor dreiddgar ydy eu sylwadau. Yma dwi'n ystyried y corwyntoedd enbyd diweddar a dychmygu ymateb plentyn i'r profiad o wylio'r newyddion a gorfod gadael cartref." Corwynt ‘Da ni wedi dysgu amdanyn nhw yn yr ysgol. Dwi’n cofio. Dwi’n cofio’r geiriau. “Oh my god. Côd y sŵn i ni gael clywed. Oh my god.” Y geiriau a’r lluniau. O’r awyr maen nhw’n brydferth. Roedd un yn edrych fel cymysgedd cacen pan dwi’n ei droi â llwy bren mewn powlen. “Maen nhw’n dweud bod rhaid i ni fynd.” Y geiriau, gwyntoedd cryf, gwasgedd isel. A’r rhifau. O un i bump. Pump ydi’r gwaethaf. “Oes na betrol yn y car? Bydd rhaid i ni gal peth ar y ffordd.” Maen nhw’n cael enwau, fel pobl. Irma. Maria. “Rhaid i ni fynd, rŵan. Ewch i bacio. Dim ond un bag bob un.” Ac yn y canol mae’r llygaid sy’n fach, ac yn llonydd, ac yn dawel. “Wyt ti’n y nghlywed i? Wyt ti’n gwrando? Mae’n rhaid i ni fynd. Rŵan. Wyt ti deall? Mae o ar ei ffordd. Mae’n rhaid i ni fynd. Rŵan hyn.” Dyna lle dwi isio bod. Yn y llygaid. Lle mae’r awyr yn glir.
Programme Website