Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

BARDD Y MIS - Cerdd i Galwad Cynnar

Galwad Cynnar

Available for over a year

Aderyn-drycin Manaw Mae ’na gwmwl du heddiw yn bygwth glaw ac ogla terfysg ar yr awel ddaw dros frig y moryn, mae’n oeri fan hyn; wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn? Mae Môr Iwerddon yn dangos ei liw a chapan ar gorun yr Eifl a’i chriw. Mi gei hwylio fory, os Duw a’i myn; wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn? Bydd dannedd y Swnt yn angof cyn hir, y peicia’n bell, ac ar fy ngwir cei daith esmwythach os gafaeli di’n dynn; wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn? Ffarwelia â’r Ynys a’i mynwes glyd am aelwyd o’r newydd ym mhen pella’r byd, ond swatia rŵan nes bydd fory ynghynn; wyt ti wedi twtio dy blu, ’nghyw bach gwyn? Rho d’air y dychweli rhyw ddydd ’nôl i’r lle nad oes tebyg iddo draw acw’n y De; pan deimli’r hen alwad, d’wed y doi ditha cyn i minna roi trefn ar fy mhlu, ’nghyw bach gwyn. Esyllt Nest Roberts

Programme Website
More episodes