Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Available for over a year

Mi fu yna gyfnod pan oedd pob diwrnod Yn llawn o ddiflastod dilestair, Ein tadau’n llafurio a’n mamau’n ymlafnio Heb undyn yn cydio mewn cadair. Ond gwaith oedd eu teyrnas a gwead cymdeithas A llafur yn urddas i’w hirddydd, ’Roedd aur ym mhob ceiniog enillwyd o gyflog I’w tlawd, ond goludog, aelwydydd. A bellach, y rhinwedd mewn byd o ddigonedd Yw cysgu a gorwedd heb gurio, Cael gwyliau’n sagrafen mewn hawddfyd o hamdden, A’n crefydd yw heulwen a hwylio. A heddiw, a’n henwlad yn awr ar y farchnad, I griw’r ymddeoliad ar ddeulin, Gwneud dim yw’r diwylliant a chwarae’n ddiwydiant A’u cyfoeth sy’n warant i werin. Pan ddaw y robotiau cyn hir i’n rhoi ninnau Ar domen ddieisiau yn ddiserch, Ai nef neu wrthuni fydd gorfod diogi, Ai drwg neu drueni i’w annerch?

Programme Website
More episodes