Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Tommo gan Idris Reynolds

Tommo

Available for over a year

TOMMO ‘Dyw Beirdd y Mis ddim yn mynd ar Tommo, Mae’n well ‘da nhw’r Talwrn, Dei Tomos a Stiwdio. ‘Dy’n nhw ddim yn awyddus gan fod yr awen Yn rhy ddrwgdybus o gyflwynydd llawen. Nid yw ‘whare dwli yn rhoi llwyfan addas Ar gyfer darllen campweithiau barddas. Pwy all ddweud gwirioneddau’n deidi Mewn mydr ac odl yng Nghwmrâg Aberteifi ? Amhosib barddoni yn iaith y Mwldan Lle mae pob ‘fe’ yn ‘hi’, a phob ‘hi’ yn fachan. A ‘sdim pwynt poeni gydag odlau dwbwl Pan fo’r Teifi Seid wedi dweud y cwbwl. Fe ŵyr y beirdd beth ydyw perfformio Ac adrodd cerddi lle bydd neb yn gwrando. Mae angen rhywun â llais gwahanol I ganu cân sydd yn swyno’r bobol. Gyda’i wresogrwydd a’i ateb parod Mae Tommo’n llwyddo gan fod e’n gwybod Fod gofyn am dipyn mwy na geirfa I ennill calon ei gynulleidfa.

Programme Website
More episodes