Episode details

Available for over a year
Yn ei Norman HUNTER mae’n dechrau’r daith, Yn ei GAR I MONKeinion mae’n filltiroedd maith, Mae’r siwrne’n cwmpasu yr hanes i gyd O Major BWCLE hyd at Peter RHYD, Trwy RHOS McCormack a Brian FLINN(T) Tae yn ei COOPER byddai yno yng nghynt. Ond wrth fynd ar RUSH drwy y mân drefi Roedd rhywbeth ar goll fel cinio heb REVIE, Drwy Chalfont St Giles a CHARLTON ac ati, I ddarllenwr mapiau roedd y daith yn reit BATTY. ‘REANY bron cyrraedd’ meddai gan wasgu’r gas Wrth ddychwel o JORDAN drwy’r BREMNER Pass. Aeth drwy sgwâr S’NODIN gyda’r brodyr GRAYS Cyn colli ei ffordd wedi HOWARD’s ways. Wedyn bu yntau fel ROBINSON yn criwsio A bu rhaid hedfan i’r gêm fel MARTIN o RIO. Mae’n llwybyr rhyfeddol fel y gwnaethoch sylwi A bu raid BECHIO nôl i osgoi MONTGOMERY. O’LEARY chi’n mynd neu o le ‘rych chi’n dod Mae’n STRACHAN o daith i DYLAN’ Road.
Programme Website