Episode details

Available for over a year
Glas – 16/01/17 Dyma ddydd Llun blin yn ôl rhai; dydd Llun yn llawn o’r glas glasa’n bod… Dyma’r diwrnod, meddan nhw a dweud fod pob trai yn sychu’r tir am ei bod hi’n poeri eirlaw; am fod ein hangovers ni’n mynd yn waeth; am ddyrnu gwario’r dolig… Ond nid dewis ydi disgyn am dro i’r lle tywylla’n bod ac mae ‘na rai â’u bob dydd Llun yn ddagrau gwydr glas.
Programme Website