Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Cerdd Alan Llwyd i Galwad Cynnar

Galwad Cynnar

Available for over a year

Yng Nghymru y mae rhyfeddodau, adar a choed a blodau, a mynyddoedd a dyffrynnoedd, a phrennau yn gwegian gan ddail bob gwanwyn a haf; rhyfeddod fel drudwy Gerlan, drudwy yn gwrlid uwch Gerlan, yn erlid ei gilydd uwch Gerlan; cymylau’n malu’n fil o ddarnau mân, mân; drudwy, cawodydd o ddrudwy, lond awyr, a Gerlan yn dywyll. Rhyfeddod fel rhyfeddod marwolaeth y dail ym Mro Elwy, a’r farwolaeth yn ailenedigaeth y dail o fewn trefn natur ei hun eto ym mhair y tymorau: y drefn a fu’n bod erioed cyn i hyrwyddwyr cynnydd ymyrryd â’r tymhorau. Yng Nghymru y mae rhyfeddodau, rhyfeddod fel y gerddi ym Modnant, bwa aur y banadl uwchben y lôn islaw fel ystafell mewn castell coeth â’i nenfydau’n siandeliriau laweroedd; eu melynder ar daen, a’r haenau clòs o dresi aur fel clystyrau o sêr, a’r lôn islaw fel Lôn Goed felen i gyd. Yng Nghymru hefyd mae rhyfeddod y môr, y môr yn sisial yn isel, yn hisian fel sarff, wrth olchi’r graean i’r lan; ond ar draethau Cymru hefyd mae ôl llanastr a gwastraff, llanastr a gwastraff blith-draphlith ar fymryn o draeth, esgyrn hen bysgod, cragen cranc; poteli a bagiau plastig yn tagu’r adar, ac yn tynnu’r gwylanod i’r tir o’u cynefin i leddfu eu cnofa o lwgfa, oblegid i ni lygru a gwenwyno’u cynefin, a dwyn eu cynhaliaeth, a’u gyrru i fwydo ar faw ein tomennydd gwastraff. Ac ar raglen Gerallt Pennant cewch glywed am y bwa aur yng Ngerddi Bodnant, ac am ddrudwy Gerlan, ac am yr hydref amryliw ym Mro Elwy tra bo i natur a byd ystyr a gwerth rhag y distryw i gyd cyn inni halogi’r wylan gilwgus â’n holew, a dwyn ei chynhaliaeth, a dileu â’n mwg a’n cemegau y rhywogaethau i gyd.

Programme Website
More episodes