Episode details

Available for over a year
Mae gen i galendr sy’n ffenestri i gyd: drwy agor y rhain y daw Rhagfyr a’i hud i lenwi’n calonnau, i gyniwair drwy’n tai, ac er gwneud hyn bob blwyddyn, nid yw’r lledrith yn llai. Wrth agor pob ffenest fesul un, cyrhaeddwn, gan bwyll, y Nadolig ei hun. Mae pump ar hugain i’w hagor o’r rhain rhwng y rhesi canhwyllau a’r cardiau cain, ac ymhob ffenest, o’i hagor hi, y mae dymuniad fy nghalon i. Rhagfyr 1: Agoraf y ffenest gyntaf un a’r rhodd ynddi hi yw brawdoliaeth dyn; brawdoliaeth yn cydio dwylo ynghyd nes bod cadwyn o ddwylo’n cwmpasu’r byd, cylch didor o ddwylo, a’r holl ddaear hon fel carreg ddrudfawr yn y fodrwy gron, a’r briodas ddiysgar rhwng daear a dyn yn briodas berffaith, yn gyfeillach gytûn. Rhagfyr 2: A dyna’r ail lun: y blaned yn lân, a dyn a’r ddaear yn byw’n ddiwahân, heb dagu’r trai ag olew trwm na throi fforestydd yn rhostir llwm. Rhagfyr 3: Yn y drydedd ffenest, croesi pob ffin y mae’r ffoaduriaid, rhag y bleiddiaid blin sy’n eu herlid a’u hela, ac yn udo o’u hôl, ac mae gwledydd y byd yn eu cymryd i’w côl. Rhagfyr 4: Y pedwerydd darlun yn y calendr hwn yw’r darlun o gorryn â’i we ar bob gwn; y ffatrïoedd arfau ar gau i gyd, pob bom yn y domen, a heddwch drwy’r byd. Rhagfyr 5: A’r heddwch hwn yw’r bumed rodd i fyd tangnefeddus, i fyd wrth ei fodd; tangnefedd a hedd drwy’r hen ddaear hon, llawenhau, trugarhau ar hyd daear gron; heddwch yn taenu amdanom ei rwyd, a phren y balmwydden i’r golomen yn glwyd. Rhagfyr 6: Nadolig dihiliaeth a llawn cariad sydd yn y chweched ffenest, a gobaith a ffydd, ac nid oes casineb gan ddyn at ddyn am ei fod yn wahanol iddo ef ei hun. Rhagfyr 7: Diddymu pob anghyfiawnder a fyn y seithfed ffenest o’r ffenestri hyn. Rhagfyr 8: Yr wythfed rodd: dileu i’r eithaf drais yn erbyn y plentyn nad oes iddo lais. Rhagfyr 9: Y nawfed yw dychwel i Ewrop drachefn rhag datod yr undod, rhag dryllio’r hen drefn. Rhagfyr 10: Yn ffenest agored y degfed dydd rhag hiliaeth filain yr hen Brydain brudd, mae fy nghenedl yn rhydd, heb fod ynghlwm wrth wladwriaeth drahaus nac wrth guriad un drwm sy’n gyrru’r holl Gymry yn filoedd i’r gad er mwyn ymerodraeth, er mwyn ei mawrhad. Rhagfyr 11: Diddymu pob tlodi yw’r rhodd nesaf un, a haelioni’n lledu drwy holl deulu dyn. a’r rhai a drigai gynt ar y stryd, heb loches ond blwch, ar aelwydydd clyd. Hoffwn weld pethau eraill, er nad oes modd cyflawni’r un wyrth na gwireddu’r un rhodd. Rhagfyr 12: A hiraethu’r wyf ar drothwy’r Ŵyl am y rhai a rannai, bob Nadolig, yr hwyl a’r miri tymhorol a’r llawenydd a fu yn tasgu drwy’r tinsel, yn pelydru drwy’r tŷ; dyheu am i’r rhai a fu’n dathlu dydd y Nadolig ddychwelyd yn yr ysbryd yn rhydd i ddathlu eto’r hen gyffro gynt cyn i’r cyffro hwnnw ddiflannu i’w hynt. Rhagfyr 13: Hoffwn fod yn blentyn bach eto fy hun yn deffro ar ddydd fy llawenydd yn Llŷn. Yn lle byw ar atgof caf eto fod yno’n breuddwydio am y bore i ddod. Rhagfyr 14: Yn fwy eiddgar fyth, hoffwn weld Ffion Haf yn chwarae eto â’i ffrind bach claf, yr un y daeth marwolaeth mor rhwydd i’w chipio ymaith cyn ei chweched pen-blwydd. Rhagfyr 15: Yn y ffenest nesaf mae plant bach Bryn-y-môr, a’r angylion o’u deutu, yn canu’n un côr yn eu cyngerdd Nadolig, wedi eu gwisgo i gyd yng ngwisgoedd lliwgar plant bach y byd. Mae deg ffenest yn rhagor i’w hagor o hyd, ac mae stori’r geni’n y ffenestri i gyd. Ac yn y rhain y geni yw’r rhodd, y rhodd i’r ddynoliaeth gan Dduw o’i fodd, a’r rhodd o’i fodd yw ei fab Ef ei hun, Ac rwy’n gweld y Nadolig cyntaf un: Rhagfyr 16: Yr angel Gabriel yn dod â’r gair y genid un bach, heb gyfathrach, i Fair; a’i adenydd yn lledaenu amdani’n dynn gan ei thynnu i ganol y gogoniant gwyn; Rhagfyr 17: a hwythau’r bugeiliaid yn dod, yn dorfeydd, i gael cip ar ryfeddod y Mab o’u porfeydd. Rhagfyr 18: Yn y ffurfafen y seren sydd yn goleuo’r nos fel canol dydd, Rhagfyr 19: a hwythau’r Doethion ar yr un hen daith er bod y siwrnai i Fethlem mor faith. Rhagfyr 20: A gwelaf y wyryf ddilychwin ei hun yn cnawdoli Duw, yn cenhedlu dyn; Rhagfyr 21: y Duwdod yn cysgu ar wely o wair, a’r bydysawd yn gyfan ym maban Mair. Rhagfyr 22: Yr angylion fry, a Mair yn rhoi’r fron i’w mab yn y stabal yn y ffenest hon. Rhagfyr 23: a noswyl Nadolig yn dinsel, yn dân, yn ein haileni i’r goleuni glân. Rhafyr 24: Yng nghalon dyn mae angylion Duw yn aileni rhyfeddod ein bod a’n byw; Rhagfyr 25: ac ar fore’r Nadolig, daw’r ddau beth ynghyd, y plant yn eu gwlâu a’r Crist yn y crud; ac yn hon, y ffenest olaf un mae cymundeb byw rhwng Duw a dyn.
Programme Website