Episode details

Available for over a year
Tra byddwch chi’r moethus deallus a doeth yn sipian eich gwin mewn rhyw gegin fawr goeth ac yn dathlu diwrnod y Sauvignon gwyn, ystyriwch y twpyn sy’n eistedd fan hyn. Rhaid imi gyfaddef na wn i ddim byd am dablen na diod na’r gwirod i gyd; mae ambell ddyn hyddysg a ŵyr sut i’w trin, gan siarad fel gwrw am gwrw a gwin; Ond dyma’r wybodaeth a’m trawodd i’n syn: fod un dydd penodol i’r Sauvignon gwyn, a phawb heddi weli yn agor poteli drwy Ewrop i gyd, o Toulouse i Bwllheli. Ond wedyn meddyliais, dyna dipyn o dreth yw trefnu un diwrnod ar gyfer un peth; Edrychais y we, mae ’na restr ar gael, a dyddiad arbennig i bopeth dan haul. A gwelais mewn syndod ar y nawfed o Fai y bydd sane colledig yn cael eu coffau, pob hosan fach unig a gollodd ei chwâr yn rhywle’n y golch. Ac mae ’da fi lond drâr. Mae gen i hen Hotpoint sydd â meddwl ei hun, mae’n bwyta fy sanau bob bore dydd Llun, ond beth bynnag yw’r golch wnaiff e byth fwyta pâr, a phob tro, bydd na un hosan od, yn un sbâr. Ond os bydd y nawfed o Fai’n dywydd ffein fe roddaf y rhes sane od ar y lein a thalaf wrogaeth i’r holl dri deg tri am fod eu bodolaeth mor iwsles â fi.
Programme Website