Episode details

Available for over a year
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud y bydd Canolfan Grefftau Rhuthun yn ffynnu, er i gaffi'r safle gau ddiwrnod ola'r llynedd ynghyd a dwy o'r pum stiwdio sy'n cael eu gosod i artistiaid a chrefftwyr unigol. Mae'r cyngor yn gwadu bod nifer yr ymwelwyr a'r ganolfan wedi gostwng, ond mae o leiaf un o'r artistiaid sydd wedi gadael wedi dweud wrth BBC Cymru bod prinder ymwelwyr yn gwneud hi'n fwyfwy anodd cyfiawnhau talu'r rhent. Adroddiad Rhian Price.
Programme Website