Episode details

Available for over a year
Cerdd gan ein 'Bardd y Mis' yn ymateb i ddigwyddiadau pêl hirgron a phêl gron y penwythnos. Penwythnos yng Nghymru Fydd Aeth penwythnos arall heibio a'r un yw'r gân o hyd, o weld y sgôr daw ochneidio gan gollwyr gorau'r byd. Achos pan mae'n dod i golli, does neb yn colli'n well: Colli cefnwyr sy' 'di nafu, neu golli bant, ymhell. Ond mae llwyddiant yn stelcian tu ôl i'r colledion llwm a'r llyfrau hanes sy'n gwegian (ac ro'n nhw eisioes yn go drwm!). Mae bron i drigain mlynedd ers i Pele sgorio'r gôl a ddysgodd i ni amynedd, neu bod gobeithio yn beth ffôl. Ond ry'n ni ar ein ffordd i Ffrainc, a nôl i Twickers, sef ein HQ. A fydd Henson ar y fainc? Ai Provence yw'r lle i fyw? Ond mae 'na gwestiynau mwy yn pwyso ar fy nghalon; achos hoffwn wybod pwy, pwy yw ein tywysogion? Beth yw hyd a lled ein harwyr? Ai dynion sy'n cicio pêl? Yn gollwyr neu'n enillwyr, ydyn ni'n Gymry, doed a ddêl? Pan drechwn ni y Springbok ac yna chwalu'r Maori, pan gloiwn ni y padloc ar gwpan Ewrop, myn dian-i, a fydd y ddraig yn chwythu ei thân ym mhob cornel? A fyddwn ninnau'n Gymru fel y gwelaf ar y gorwel? A fydd yn y llyfrau hanes ddim ond pennod am ddau dîm? Neu a fydd yna lyfrau'n gyfres sy'n nodi taw Cymru ŷm? Aneirin Karadog
Programme Website