Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,4 mins

Christine James - Bardd Preswyl Ionawr

Rhaglen Dylan Jones

Available for over a year

Dau Wynebog Yn ôl yr hen Rufeiniaid, duw dechreuadau a newidiadau oedd Ianws, a chan hynny’n dduw drysau a gatiau ac agoriadau. Fe’i darlunnir yn aml a dau wyneb ganddo, y naill yn edrych tuag yn ôl a’r llall yn edrych tuag ymlaen. O’i enw ef, fe ddywedir, y daw enw mis Ionawr. Saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog gan guro’n daer am gael dod mewn i’n tai: agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. Dan becyn o brofiadau mae e’n llwythog, gŵyl, gras a gofid yw ei ddeunydd crai: saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog. O’n blaen, fe daena ambell ddiwrnod heulog; daw stormydd garw o’i bwn i guro rhai: agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. O’i sach, tyn Ionawr a’i bibonwy miniog, a’u dilyn, chwap, gan awel mwynder Mai: saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog. Mae yn ei boced wg cymylau cuchiog (ond dan ei het mae awyr las ddi-fai): agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. Trown lygaid llynedd dros ei nwyddau oriog, rhaid prynu lles y llanw, broc y trai; saif pedlar blwyddyn arall ar y rhiniog – agorwn ddrws fel Ianws dauwynebog. Christine James Dydd Calan 2015 Lluniwyd fel rhan o weithgarwch ‘Bardd y Mis’ Radio Cymru, a’i darlledu ar raglen Dylan Jones, 2 Ionawr 2015

Programme Website
More episodes