Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Cymru,2 mins

Gorsaf Awyr Milton, Sir Benfro: Llongau awyr yn gwylio'r glannau

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Gorsaf awyr yn berchen i’r llynges oedd RNAS Milton, neu RNAS Pembroke fel y'i gelwir weithiau. Fe sefydlwyd yr orsaf ger Sageston yn Sir Benfro yn 1915, fel cartref ar gyfer rhai o’r llongau awyr oedd yn chwilio’r moroedd am longau tanfor yr Almaen. Daeth hyn yn fwy fwy pwysig yn ystod y Rhyfel wrth i longau tanfor yr Almaen nid yn unig fygwth bywydau ond wrth i ymosodiadau ar longau masnach effeithio ar allu Prydain i fewnforio bwyd a deunyddiau crai. Roedd y llongau awyr yng Nghorsaf Awyr Milton yn dal dau berson, dau fom ac un gwn peiriant, ac roedd 400 o bobl yn gweithio ar y safle. Yn 1917 fe ddaeth pump o awyrennau ('biplanes') hefyd i RNAS Milton. Fel y llongau awyr roedden nhw’n cael eu defnyddio i chwilio am longau tanfor y gelyn. Fe gaewyd gorsaf awyr y llynges yn 1920 ac fe werthwyd yr adeiladau. Ond yn 1938 fe agorodd RAF Carew Cheriton ar yr un safle, gorsaf ar gyfer awyrennau yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Gwrandewch ar Denzil Griffiths o Gymdeithas Hanes RAF Carew Cheriton ac Edward Davies o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn sôn am yr orsaf awyr yn y clip. Lleoliad: Safle Gorsaf Awyr Milton, Sir Benfro, SA70 8SX Llun: Un o longau awyr Gorsaf Awyr Milton gyda chaniatâd yr Imperial War Museums.

Programme Website
More episodes