Episode details

Available for over a year
Gwyn Jenkins, Aberystwyth, awdur y gyfrol Cymry’r Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n adrodd hanes Emil Gipprich, yr Almaenwr oedd yn rheolwr ar dafarn y Belle Vue, Trefriw ger Llanrwst adeg y Rhyfel Mawr. Cafodd ei erlid o’r ardal gan dorf wallgof, ac ymfudodd i’r America. Heddiw, Gwesty'r Princes Arms yw'r Belle Vue. Lleoliad: Belle Vue (Gwesty'r Princes Arms), Trefriw, Conwy, LL27 0JP Lluniau: Gwesty'r Princes Arms heddiw, gyda chaniatâd y perchnogion a'r adeilad pan oedd yn Belle Vue adeg y Rhyfel Byd Cyntaf drwy garedigrwydd gwefan penmorfapaintings.co.uk.
Programme Website